Hoffech chi ddefnyddio eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad i helpu i siapio’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn yn eich ardal leol?
Mae ein bwrdd ymddiriedolwyr yn gweithio i sicrhau bod yr elusen yn deall pobl hŷn, eu problemau a’r gefnogaeth y maent ei hangen. Maent yn gyfrifol am arolygu’r elusen ar lefel strategol i wneud yn siŵr ei bod yn llwyddo.
Mae ein hymddiriedolwyr yn darparu arweiniad a chyfeiriad ar sail wirfoddol ac yn gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Gweithredol i weithredu’r strategaeth yma. Mae ein hymddiriedolwyr yn cwrdd bob deufis.
Mae gan ein hymddiriedolwyr gyfrifoldeb cyfreithiol am sicrhau bod adnoddau’r elusen yn cael eu rheoli’n gywir ac yn cael eu defnyddio i bwrpasau cyfreithiol yr elusen yn unig.
Byddem yn croesawu mynegiant o ddiddordeb gan unrhyw un sy’n frwdfrydig dros helpu pobl hŷn a / neu sydd â phrofiad yn y meysydd canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â bod yn ymddiriedolwr gallwch fynd i wefan y comisiwn elusennau https://www.gov.uk/government/publications/the-essential-trustee-what-you-need-to-know-cc3 neu ffoniwch 08450 549 969 a gofynnwch am gael siarad gyda Karen Crane Prif Swyddog Gweithredol.