Sir y Fflint : 01352 753728 Font Aa+Aa-

Gwasanaeth Cymorth Lle Bo’r Angen i Bobl Hŷn

Wrecsam


Mae’r Gwasanaeth Cymorth Lle Bo’r Angen i Bobl Hŷn Wrecsam yn wasanaeth cymorth rhad ac am ddim gyda thai i bobl sy’n byw yn Wrecsam sy’n 55+ ac yn denantiaid neu’n berchnogion ar eu cartrefi. Mae’r gwasanaeth yn sicrhau bod unrhyw berson hŷn yn teimlo’n gryfach oherwydd eu cysylltiad â ni, yn gallu aros yn annibynnol, ac yn gallu parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain a’u dewis gymuned. Ariennir y prosiect hwn gyda Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Sut y gallwn ni helpu…….

  • Gwasanaeth cymorth tai am ddim am hyd at 2 flynedd
  • I bobl sy’n byw yn Wrecsam sydd dros 55 oed ac yn denantiaid neu’n berchnogion ar eu cartrefi.
  • Ariennir y prosiect gan Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
  • Mae ein Swyddogion Cymunedol yn ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain.
  • Mae dymuniadau a safbwyntiau’r person hŷn yn ganolog i’r cymorth.
  • Mae’r meysydd o gymorth yn cynnwys diogelwch yn y cartref, diogelwch y gymuned, cyngor am fudd-daliadau, gweithgareddau cymdeithasol a chludiant.
  • Rydym yn annog y person hŷn i weithio gyda ni i wella eu sefyllfa, felly, byddwn yn eu helpu i adeiladu eu profiad a’u gwybodaeth eu hunain i feithrin annibyniaeth.
  • Rydym yn canfod atebion, yn rhoi cymorth ymarferol ac yn cysylltu â gwasanaethau eraill, asiantaethau neu sefydliadau i oresgyn y problemau.
  • Cyfeiriwch at ein Cynorthwywr Llesiant os oes angen