Os byddwch yn deialu rhifau sy’n cychwyn gyda 084, mae’n creu dau daliad gwahanol:
a
Yn unol â hynny, pan fyddwch yn ein ffonio ni ar 08450 549969 bydd yr alwad yn terfynu gyda’n darparwr gwasanaeth. Mae ein Tâl Gwasanaeth wedi’i osod fel 1.7c y funud. Bydd eich darparwr ffôn yn gosod eich Tâl Mynediad, a bydd ganddynt oll gostau gwahanol, felly mae’n amhosibl i ni ddweud beth yn union fydd y gost.
Er enghraifft: Byddai person sy’n defnyddio llinell dir BT i ffonio 08450 549969 yn gorfod talu 14.7 ceiniog y funud. O edrych ar hyn yn fanylach, mae BT yn codi 13c y funud am y Tâl Mynediad, ac mae ein darparwr wedi gosod y Tâl Gwasanaeth fel 1.7c y funud, gan roi cyfanswm o 14.7 ceiniog. (Mae’r prisiau a nodwn ar gyfer BT yn gywir ar 11/10/18 ond gallent amrywio)