Rydw i wedi argymell y gwasanaeth Age Connect yn hyderus i ffrindiau, diolch i fy mhrofiad gwych gyda Lesley a’r tîm.
Sefydlwyd Age Connects Gogledd Ddwyrain Cymru (ACNEW), sef Age Concern Gogledd Ddwyrain Cymru gynt, fwy na 20 mlynedd yn ôl. Ers hynny, mae’r sefydliad wedi tyfu ac wedi cyffwrdd â bywydau miloedd lawer o bobl yn Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae llawer o bobl wedi cael modd i fyw drwy eu cysylltiad gyda ni ac wedi ail gysylltu â’u cymuned, gwneud ffrindiau newydd ac ail gwrdd â hen gyfeillion yn aml iawn.
Rydym yn hybu lles pobl drwy eu trin fel unigolion, gan weithio gyda nhw i ddatrys unrhyw broblemau a’u helpu i barhau i fwynhau bywyd a theimlo’n rhan werthfawr o’u cymuned.
Mae Age Connects Cymru yn bodoli i newid agweddau pobl tuag at yr henoed ac felly wella eu bywydau. Rydym yn gwrando ar farn pobl hŷn ac yn helpu i newid barn cymdeithas ynglŷn ag oedran, lle ystyrir yr hen hŷn yr un mor werthfawr ag unrhyw un arall.
Mae Age Connects Cymru’n caniatáu i’w aelodau weithio ar y cyd ledled Cymru gyda’r un pwrpas.
Credwn fod cydweithio’n gallu cryfhau’r gefnogaeth a roddir i bobl hŷn yn y gymuned.
Rydw i wedi argymell y gwasanaeth Age Connect yn hyderus i ffrindiau, diolch i fy mhrofiad gwych gyda Lesley a’r tîm.
Heb os nac oni bai, byddwn yn eich argymell i rywun arall oherwydd y cymorth a gawsom gennych.
Cymaint o gymorth proffesiynol pan oeddwn i’n teimlo’n fregus.
Roedd y gwasanaeth o gymorth enfawr i mi ar adeg anodd iawn
Gwasanaeth gwych.
Hyfryd a chwrtais, a phob amser yn barod i helpu
Cawsom gymorth a gwybodaeth, a fu o help i ni wneud ein bywydau’n well.
Roedd y cymorth a gefais yn rhagorol
Dydw i ddim yn gallu esbonio ddigon mor bwysig yw cymeriad hynod bositif Anna i mi. Byddaf yn ddiolchgar iddi hi ac Age Connects am byth.
Roedd hi’n achubiaeth go iawn. Cefais help ganddi i gael Lwfans Gweini a Bathodyn Glas sydd wedi helpu’n enfawr.
Mae Leanne yn weithiwr rhagorol sy’n gofalu’n fawr am ei chleientiaid. Byddem ar goll hebddi, a’r gefnogaeth y mae hi wedi ei rhoi.
Roedd Lesley o gymorth enfawr i mi gyda fy nghais i gynyddu fy Lwfans Gweini a’m cais am fathodyn glas. Mae’r ddau gais wedi llwyddo ac rydw i’n hynod o ddiolchgar.
Mae o help mawr i mi gael cymorth yn y cartref yn enwedig am fy mod yn weddw. Roedd hi’n garedig iawn a pharod iawn i helpu.
Roedd hi’n llawn gwybodaeth, yn barod i helpu ac yn hynod gefnogol i’n helpu ni gyda’r gweithdrefnau anodd sy’n achosi rhwystredigaeth yn aml iawn. Byddai hi bob amser yn ateb ein ymholiadau ffôn a byddai’n ymweld â ni gartref i esbonio’r gwaith papur a anfonwyd atom ni. Rydym mor eithriadol o ddiolchgar am ei chymorth.
Roedd hi’n garedig iawn a pharod iawn i helpu.
Roedd eich cymorth yn hynod o werthfawr i’m helpu i gael y cymorth oedd ar gael i alluogi i fy Mam fyw’n annibynnol. Rydym yn hynod o ddiolchgar am y cymorth yma.
Rwy’n ei chael hi’n anodd llenwi ffurflenni, felly roeddwn i’n gwerthfawrogi’n fawr cael rhywun sy’n hyderus yn gwneud y dasg hon.
Doeddwn i ddim yn gwybod bod cymorth o’r fath yn bodoli. Roedden nhw’n esbonio beth oedd ar gael i mi ac yn gwneud y ceisiadau i mi. Roedd o gymorth mawr.
Roedd Lesley o gymorth mawr i mi gyda gwybodaeth am y pethau y gallwn eu hawlio a chefnogaeth i lenwi ffurflenni ac ati, ac roedd hi’n ymateb yn gyflym iawn os oedd gen i unrhyw gwestiynau.
Llawer o gymorth gyda chanlyniad cadarnhaol.
Doeddwn i ddim wedi disgwyl cael unrhyw gymorth ychwanegol ond cysylltais â chi am fod fy merch wedi mynnu, ac roeddwn i’n rhyfeddu at y cymorth a gynigiwyd gennych a’r cymorth a gefais i wneud ceisiadau. Fydden nhw ddim wedi gallu bod yn fwy caredig ac yn fwy o gymorth i mi, pasiwch fy niolch iddyn nhw os gwelwch yn dda.
Roeddwn i’n hapus iawn gyda’r wybodaeth glir a chryno a gefais, ynghyd â’r cymort.
Roedd Rita yn hynod o feddylgar a pharod i helpu.
Roedd y gwasanaeth a gefais yn wych.
Ni allai’r gefnogaeth a gefais fod yn well. Rydw i’n hynod o ddiolchgar
Roedd Gaynor yn wych a gwnaeth y broses yn hawdd iawn.
Mae Anna wedi bod yn rhagorol. O’r dechrau mae hi wedi bod mor garedig, gwybodus, proffesiynol, a llawn dealltwriaeth … gallwn ddweud pethau da amdani am oriau, gwir gredyd i’ch sefydliad
Diolch yn fawr i chi am eich cymorth a’ch cyngor ac am fy nghefnogi i symud. Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn ar fy mhen fy hun.
Cymorth enfawr a gwasanaeth gwych.
Hynod o gyfeillgar a pharod i helpu. Byddaf yn sicr o’ch argymell i bobl erail