Mae gennym dîm o wirfoddolwyr i’n helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Heb ein gwirfoddolwyr ni fyddem yn gallu cynnig cefnogaeth i gymaint o bobl hŷn nac yn yr un ffordd.
Mae gwirfoddoli nid yn unig o fudd i’n pobl hŷn ond gall fod yn wobrwyol iawn i’r gwirfoddolwyr hefyd am eu bod yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a threulio amser gyda phobl sy’n gwerthfawrogi eu cefnogaeth.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi ein Technegwyr Iechyd y Traed. Byddent yn cwblhau manylion cofrestru, cymryd taliadau a threfnu apwyntiadau.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n hyderus yn sgwrsio gyda rhywun hŷn ar y ffôn. Mae pobl hŷn yn gallu teimlo’n unig ac mae sgwrs wythnosol fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr.
Rydym yn ceisio trefnu a mynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau i hybu ein gwasanaethau ac i godi arian i gynnal a datblygu ein gwasanaethau.
Os cewch ychydig o amser sbâr ac mae gennych ddiddordeb mewn unrhyw rai o’r rolau gwirfoddoli uchod cysylltwch â ni ar 01352 753728 neu llenwch y ffurflen gais y gallwch ei lawrlwytho.