Gall Age Connects Gogledd Ddwyrain Cymru eich helpu i ddod o hyd i amrywiaeth o grwpiau cymdeithasol yn eich ardal leol a thrafod sut y gallech chi ymuno â nhw.
Dyma rai o’r sesiynau eraill sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn Lewis House:
Cronfa Fwyd Sir y Fflint bob Dydd Iau o 10am – 12 y pnawn, i gael rhagor o wybodaeth cliciwch y ddolen https://flintshire.foodbank.org.uk/locations/
Os hoffech wirfoddoli i sefydlu grŵp yn Lewis House, cysylltwch â ni ar 01352 753728, anfonwch e-bost i info@ageconnectsnewales.org.uk neu defnyddiwch y ffurflen gysylltu ar waelod y dudalen hon.
Mae ein hystafell yn Lewis House ar gael i’w rhentu am £7.50p yr awr i grwpiau cymunedol, naill ai un waith yn unig neu fel trefniant rheolaidd. Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi’r ystafell neu gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni ar 01352 753728, anfonwch e-bost i info@acnew.org.uk neu defnyddiwch y ffurflen gysylltu ar waelod y dudalen hon.
Mae gwirfoddolwyr yn ffonio pobl yn y gymuned o’n swyddfeydd unwaith yr wythnos i gael sgwrs gyffredinol. Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim.
Mae un o’n gwirfoddolwyr yn ffonio pobl yn y gymuned unwaith yr wythnos i gael sgwrs gyffredinol.